Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus / Public Accounts Committee
PAC(5)-13-17 P1
Adran yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
Department for Economy, Skills and Natural Resources
Nick Ramsay AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Wales c/o
committeebusiness@wales.gsi.gov.uk
28 Mawrth 2017
ARIANNU KANCOAT Ltd GAN LYWODRAETH CYMRU
Annwyl Gadeirydd,
Gweler yn amgaeedig gopi o ymateb Llywodraeth Cymru i’ch adroddiad ar fater ariannu Kancoat Ltd gan Lywodraeth Cymru.
O’r 11 o argymhellion yn yr adroddiad, gallaf gadarnhau’n bod yn derbyn 10 ohonyn nhw’n llawn ac un argymhelliad (rhif 7) mewn egwyddor. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo i’w rhoi ar waith.
Yn gywir,
Mick McGuire
Canolfan QED ●QED Centre
Y Brif Rodfa ● Main Avenue Ffôn ●Tel 0300 061 5691
Trefforest ● Treforest mick.mcguire@wales.gsi.gov.uk
CF37 5YR Gwefan ● website: www.wales.gov.uk
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Kancoat Ltd- Crynodeb o Argymhellion a
Chamau Gweithredu
Argymhelliad 1.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro'r diffiniad o 'ddeunyddiau a gweithgynhyrchu uwch' a'r bwriad fod hyn yn cael ei ystyried fel un sector. Dylai'r eglurhad hwn fod yn glir o ran diffinio beth yn union sydd wedi'i gynnwys o fewn 'deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch'.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch yw un o’r 8 Sector o fewn portffolio yr Adran. Mae’r Adran Sectorau a Busnes yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae’n bosib y bydd strwythurau newydd yn ymddangos i adlewyrchu blaenoriaethau’r Gweinidogion. Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor ar y newidiadau i bortffolio’r Adrannau ac mae disgwyl eu cwblhau erbyn Haf 2017.
Yn dilyn yr adolygiad hwn byddwn yn egluro’r diffiniad o ‘deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch’ ac yn hysbysu pawb o’r diffiniad.
Argymhelliad 2.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadw cofnodion clir o benderfyniadau ynghylch dyfarnu cyllid y tu allan i ddiffiniadau sefydledig. Bydd hyn yn sicrhau nad oes unrhyw gwestiynau o ran triniaeth anghyson yn y broses o wneud penderfyniadau gan y cwmnïau hynny y tu allan i'r diffiniad traddodiadol nad ydynt wedi cael cymorth.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Byddwn yn cadarnhau’r gofyniad am gofnodion clir o benderfyniad yn gysylltiedig â dyfarnu pob cyllid, gan gynnwys y rhai hynny sydd y tu allan i ddiffiniadau sefydledig.
Bydd y dull o gadw cofnodion ar gyfer y broses o wneud penderfyniad (gan gynnwys cymeradwyaeth y Gweinidog) yn cael ei gynnwys yn y canllawiau i Benaethiaid y Sector fydd hefyd yn eu hatgoffa o’r angen i gynnwys, fel rhan o’u hargymhelliad, y sail resymegol dros gefnogi unrhyw brosiect sydd ddim yn cyd-fynd â diffiniadau sefydledig y Sector.
Bydd y “Canllawiau i Benaethiaid y Sector” yn cael eu cyhoeddi erbyn yr Haf 2017.
Argymhelliad 3.
Er mwyn sicrhau bod digon o eglurder, mae'r Pwyllgor yn argymell bod
Llywodraeth Cymru yn diwygio'r derminoleg ar gyfer yr arian y mae'n ei ddarparu o 'ad-daladwy nad oes angen ei ad-dalu' i rywbeth sy'n disgrifio'n fwy cywir yr hyn sy'n cael ei gynnig.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Fel mesur dros dro bydd y Cynllun Cyllid Busnes Ad-daladwy yn cael ei newid i “Cynllun Cyllid Busnes”. Bydd canllawiau cliriach o ran a yw cynnig yn addaladwy neu ddim yn cael eu cyflwyno wedi cwblhau’r adolygiad ehangach sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae’r amseru ar gyfer y gwaith hwn yn gysylltiedig â’n hymateb i Argymhelliad 4.
Argymhelliad 4.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyhoeddi canllawiau cliriach ynghylch pryd y caiff cyllid busnes ad-daladwy nad oes angen ei ad-dalu ei gynnig a phryd y bydd cyllid busnes ad-daladwy yn cael ei gynnig. Rydym yn awgrymu y gall yr Archwilydd Cyffredinol fod am ddychwelyd at y mater hwn yn ei waith yn y dyfodol ar gymorth busnes.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar sut y mae’n cynnig cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru fel rhan o ddatblygu’r Strategaeth Ffyniannus a Diogel. Dyma un o’r bedair strategaeth drawsbynciol fydd yn pennu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiadau wrth Symud Cymru Ymlaen.
Caiff y bedair strategaeth eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bydd yn llywio cyfeiriad ein canllawiau newydd fydd yn cadarnhau ein safbwynt ar gyllid busnes ad-daladwy a chyllid nad oes angen ei ad-dalu.
Argymhelliad 5.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro'r gwahaniaeth rhwng cyllid busnes ad-daladwy gwirioneddol (di-log) a benthyciadau masnachol.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Byddwn yn egluro’r gwahaniaeth rhwng cyllid busnes ad-daladwy gwirioneddol (di-log) a benthyciadau masnachol ac yn hysbysu pawb o’r gwahaniaeth hwn yn unol â’r amserlen a amlinellwyd yn Argymhelliad 2.
Argymhelliad 6.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu canllawiau cadarn wedi'u diweddaru ar adnabod a lliniaru risgiau, sy'n adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o'r ymchwiliad hwn. Dylai'r canllawiau hyn sicrhau bod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau fframwaith mwy cadarn i weithio gydag ef ac felly rhoi ystyriaeth briodol i risg. Byddem yn disgwyl i adnabod risg a digonolrwydd unrhyw gamau lliniaru arfaethedig fod yn elfennau sylweddol yng ngwaith yr Archwilydd Cyffredinol yn y dyfodol ar Gyllid Busnes.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Cafodd canllawiau ychwanegol ar asesu risg eu cyflwyno yn ddiweddar i swyddogion o fewn y timau Sectorau a Busnes a bydd pawb yn cael gwybod am hyn. Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu y diffiniad o risg, yn nodi risgiau, asesu risg, lliniaru risg a rheolau penodol ar reoli risg trwy gydol oes prosiect. Maent hefyd yn cynnwys canllawiau ar sut i gwblhau y ffurflen asesu risg sy’n cyd-fynd â’r gwerthusiadau o brosiectau.
Argymhelliad 7.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Prif Weinidog yn sicrhau bod y Cod Gweinidogol yn ei gwneud yn ofynnol ystyried gwrthdaro canfyddedig o ran buddiannau a bod canlyniad ystyriaeth o'r fath yn cael ei ddogfennu'n llawn ac yn ffurfiol.
Argymhelliad: Derbyn mewn Egwyddor.
Mae Para 4.4 o’r Cod Gweinidogol eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet gymeryd gofal arbennig dros benderfyniadau a allai olygu bod posibilrwydd o wrthdaro buddiannau o ganlyniad i’w cyfrifoldebau o fewn eu portffolio a buddiannau eu hetholwyr.
Mae’n rhaid i Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet fod yn bersonol gyfrifol am eu camau a’u hymddygiad ac mae’n rhaid iddynt gyfiawnhau eu hymddygiad i’r Cynulliad os oes angen, fel a benwyd ym mharagraff 1.3 o’r Cod Gweinidogol. Os ydynt yn ystyried bod posibilrwydd o wrthdaro buddiannau, gofynnir am farn y Prif Weinidog a ble y ceir cyfeirio o’r fath eu bod yn cael eu dogfennu yn llawn.
Argymhelliad 8.
Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r penderfyniadau i fynd yn groes i gyngor yr adroddiad diwydrwydd dyladwy gael eu cofnodi'n glir yn nogfennaeth y prosiect. Nid yw hyn yn golygu y dylid dilyn hyn ym mhob achos, ond dylai tystiolaeth o ystyriaeth lawn yn cynnwys dadansoddiad o'r farchnad, a'r rhesymau dros benderfyniadau gael eu cofnodi er mwyn sicrhau y cynhelir gwerth diwydrwydd dyladwy.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Byddwn yn cadarnhau ei bod yn ofynnol i gadw cofnodion clir o benderfyniadau’n gysylltiedig â dyfarnu pob cyllid. Bydd y dull o gadw cofnodion ar gyfer y broses o wneud penderfyniadau (gan gynnwys cymeradwyaeth y Gweinidog) yn cael ei gynnwys yn y canllawiau diweddaraf i Benaethiaid y Sector fydd hefyd yn eu hatgoffa o’r angen i gynnwys, fel rhan o’u hargymhelliad, y sail resymegol dros benderfyniadau sy’n mynd yn erbyn cyngor yr adroddiad diwydrwydd dyladwy, a dylid cadw cofnod clir o hyn yn nogfennau y prosiect.
Bydd y canllaw yn egluro’n glir y gwahaniaeth rhwng diwydrwydd dyladwy a diwydrwydd dyladwy ariannol sy’n rhan bwysig o’r broses diwydrwydd dyladwy. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r amseroedd a amlinellir yn Argymhelliad 2.
Argymhelliad 9.
Mae'r Pwyllgor yn argymell, wrth ymdrin â cheisiadau am ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i gwmnïau, y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cyfnod mwy cadarn ar gyfer 'oedi ac adlewyrchu' yn ei phrosesau diwydrwydd dyladwy, ystyriaeth a chymeradwyaeth.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu cynnwys o fewn rheolau’r cynllun i gadarnhau pwysigrwydd mabwysiadu dull “oedi ac adlewrychu” wrth ddelio naill ai gyda cheisiadau am gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer un prosiect neu gyda ceisiadau niferus am gymorth gan un cwmni.
Bydd y “Canllawiau i Benaethiaid y Sector” manwl yn cael ei gyhoeddi erbyn Haf 2017.
Argymhelliad 10.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiadau yn nodi'n glir bod angen cael prisiadau proffesiynol annibynnol a diweddar ar unrhyw asedau a gynigir fel diogelwch cyfochrog cyn cytuno ar unrhyw gyllid.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Pan fydd asedau yn cael eu defnyddio fel diogelwch cyfochrog ar gyfer benthyciadau, bydd canllawiau mewnol yn cael eu diweddaru i nodi’n glir bod prisiadau proffesiynol annibynnol a diweddar ar unrhyw asedau a gynigir fel diogelwch ar gyfer benthyciad cyntaf yn cael eu cynnal, cyn cytuno ar unrhyw gyllid. Daw hyn i rym erbyn diwedd Ebrill 2017.
Argymhelliad 11.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am ganlyniad unrhyw drafodaethau ar gyfer y safle, a'r effaith a gaiff hyn ar y swm terfynol a gollwyd o ganlyniad i'r buddsoddiad yn Kancoat a dylai hyn gynnwys cost unrhyw waith adfer.
Argymhelliad: Derbyniwyd
Mae gan fuddsoddwyr ddiddordeb yn y safle. Unwaith y bydd canlyniadau’r trafodaethau yn hysbys bydd swyddogion yn rhannu unrhyw oblygiadau ariannol gyda’r Pwyllgor.